Yr ICO yn dirwyo cwmni £130,000 am alwadau diawdurdod ynghylch pensiynau

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi rhoi dirwy o dan y gyfraith a gyflwynwyd i atal twyllwyr rhag twyllo pobl allan o’u pensiynau.

Cafodd cwmni o Abertawe, CPS Advisory Ltd, ddirwy o £130,000 am wneud mwy na 100,000 o alwadau marchnata uniongyrchol heb awdurdod i bobl ynglŷn â’u pensiynau.

Newidiodd y gyfraith yn 2019 i gyfyngu ar bwy gaiff alw pobl ynglŷn â’u pensiynau

Dywedodd Andy Curry, Pennaeth Ymchwiliadau’r ICO:

“Mae galwadau diwahoddiad ynghylch pensiynau yn gallu peri gofid gwirioneddol, a chaledi ariannol sylweddol hyd yn oed, i bobl sy’n agored i niwed yn aml, sef pobl sy’n gallu colli’r pot pensiwn maen nhw wedi gweithio’n ddygn i’w gasglu i dwyllwyr.

“Mae’n amlwg bod y cwmni hwn wedi diystyru’r gyfraith pan ddylen nhw wybod yn well. Busnesau sy’n gwneud galwadau marchnata uniongyrchol sy’n gyfrifol am ddeall eu cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth, ac nid yw anwybodaeth yn esgus.”

O dan y gyfraith newydd, dyw cwmnïau ddim yn cael gwneud galwadau byw i bobl ynglŷn â’u eu pensiynau galwedigaethol neu bersonol oni bai:

  • bod y galwr wedi’i awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), neu’n ymddiriedolwr neu’n rheolwr cynllun pensiwn galwedigaethol neu bersonol, a
  • bod derbynnydd yr alwad yn cydsynio i gael ei alw, neu fod ganddo berthynas â’r galwr yn barod.

Cafodd newid ei wneud ym mis Ionawr 2019 yn y Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (PECR) sy’n ymdrin â galwadau marchnata, dros y ffôn a thrwy negeseuon testun er mwyn atal pobl rhag dioddef twyll, y mae’r rhan fwyaf ohono’n digwydd drwy alwadau niwsans, ac o bosibl eu harbed rhag colli eu pensiynau.

Dywedodd Ysgrifennydd Economaidd y Trysorlys, John Glen:

“Galwadau diwahoddiad ynghylch pensiynau yw’r dull mwyaf cyffredin sy’n cael ei ddefnyddio i gychwyn sgamiau pensiwn, sy’n gallu amddifadu pobl o’r cynilion maen nhw wedi gweithio’n galed i’w crynhoi a dinistrio bywydau. Dyna pam yr aethon ni ati i’w gwahardd. Dylai’r ddirwy heddiw fod yn rhybudd i bobl eraill fod galw’n ddiwahoddiad ynghylch pensiynau yn annerbyniol, a bydd y rhai sy’n cael eu dal yn diystyru’r rheolau yn cael eu dwyn i gyfrif.”

O dan y PECR, mae busnesau a’u swyddogion yn gallu wynebu dirwy o hyd at £500,000 gan yr ICO.

Yn ystod ei hymchwiliad, gwelodd yr ICO fod y cwmni, rhwng 11 Ionawr 2019 a 30 Ebrill 2019, wedi gwneud 106,987 o alwadau i bobl heb awdurdod cyfreithlon.

Canfu’r ICO nad oedd y cwmni’n ymddiriedolwr nac yn rheolwr cynllun pensiynau ac nad oedd wedi’i awdurdodi gan yr FCA ac fe fethodd y dystiolaeth a roddodd â bodloni’r ICO bod cydsyniad dilys wedi’i sicrhau.

Penderfynodd y Comisiynydd Gwybodaeth fod hyn yn ymyrraeth sylweddol â phreifatrwydd y bobl a gafodd alwadau o’r fath.

Dylai unrhyw un sy’n credu eu bod wedi dioddef galwadau, negeseuon testun neu negeseuon e-bost niwsans gysylltu â’r ICO gyda’r manylion ar-lein. Gallwch ein ffonio ni hefyd ar 0303 123 1113 neu gysylltu drwy sgwrs fyw.

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cynnal hawliau gwybodaeth er lles y cyhoedd, gan annog cyrff cyhoeddus i fod yn agored a hybu preifatrwydd data i unigolion.
  2. Mae gan yr ICO gyfrifoldebau penodol sydd wedi’u nodi yn Neddf Diogelu Data 2018, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig 2003.

Source

Spread the love

Related posts

Leave a Comment