Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi rhoi dirwy o £150,000 i gwmni ffenestri dwbl o Abertawe am wneud galwadau niwsans.
Dros gyfnod o 11 mis, bu Superior Style Home Improvements Ltd yn galw pobl oedd wedi cofrestru eu rhifau gyda’r Gwasanaeth Dewisiadau Ffôn (TPS) ac a oedd heb roi eu caniatâd i gael y galwadau. Mae’r ICO hefyd wedi rhoi Hysbysiad Gorfodi i’w rhybuddio i roi’r gorau i wneud y galwadau.
Dywedodd Dave Clancy, o dîm ymchwilio’r ICO:
”Dylai cwmnïau sy’n ymwneud â’r gweithgarwch anghyfreithlon yma gymryd sylw: byddwn ni’n cymryd camau yn erbyn y rhai sy’n parhau i ddiystyru’r gyfraith ynghylch marchnata electronig drwy alwadau ffôn, negeseuon e-bost a negeseuon testun. Mae’r rhain yn creu niwsans go iawn – a gofid yn aml – i bobl nad ydyn nhw’n dymuno’u cael. Dylai cyfarwyddwyr cwmnïau fod yn ymwybodol hefyd eu bod nhw yn gallu bod yn atebol yn bersonol erbyn hyn am dalu’r dirwyon rydyn ni’n eu codi.”
Hysbysiad cosb ariannol i Superior Style Home Improvements Ltd ar ôl gwneud galwadau digroeso i unigolion a oedd wedi cofrestru gyda’r TPS er mwyn ceisio gwerthu gosodiadau UPVC.
If You Liked This Article Click To Share